Ffoniwch Rhadffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu ofyn am alwad yn ôl

Darllenwch y polisi cwcis hwn (“polisi cwcis”, “polisi”) yn ofalus cyn defnyddio [gwefan] gwefan (“gwefan”, “gwasanaeth”) a weithredir gan Nyth (“ni”, “rydym”, “ein”)

Beth yw cwcis?

Cwcis yw ffeiliau testun syml sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol gan weinydd gwefan. Mae pob cwci yn unigryw i’ch porwr gwe. Bydd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ddienw, megis nod adnabod unigryw, enw parth y wefan, a rhai digidau a rhifau.

Pa fathau o gwcis rydym yn eu defnyddio?

Cwcis angenrheidiol

Mae cwcis angenrheidiol yn ein galluogi i gynnig y profiad gorau posibl i chi wrth i chi gyrchu ein gwefan, symud drwyddi a defnyddio ei nodweddion. Er enghraifft, mae’r cwcis hyn yn golygu y gallwn weld eich bod wedi creu cyfrif a’ch bod wedi mewngofnodi i’r cyfrif hwnnw.

Cwcis swyddogaethol

Mae cwcis swyddogaethol yn gadael i ni weithredu’r wefan yn unol â’r dewisiadau rydych yn eu gwneud. Er enghraifft, pan fyddwch yn ymweld â’r wefan yn y dyfodol, byddwn yn adnabod eich enw defnyddiwr ac yn cofio sut y gwnaethoch addasu’r wefan.

Cwcis dadansoddol

Mae’r cwcis hyn yn ein galluogi ni a gwasanaethau trydydd parti i gasglu data cyfanredol at ddibenion ystadegol ynghylch sut mae ein hymwelwyr yn defnyddio’r wefan. Nid yw’r cwcis hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol fel enwau a chyfeiriadau e-bost ac rydym yn eu defnyddio i’n helpu i wella eich profiad o ddefnyddio’r wefan.

Sut mae dileu cwcis?

Os hoffech gyfyngu ar y cwcis sy’n cael eu gosod gan ein gwefan neu’u blocio, gallwch wneud hynny drwy osodiadau eich porwr. Fel arall, ewch i www.internetcookies.org, sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am sut i wneud hyn ar amrywiaeth eang o borwyr a dyfeisiau. Bydd gwybodaeth gyffredinol ar gael am gwcis a manylion am sut mae dileu cwcis o’ch dyfais.

Cysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn neu ein defnydd o gwcis, cysylltwch â ni.