Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau ac amodau defnydd canlynol ac i fod yn rhwymedig iddynt, a byddant yn llywodraethu cydberthynas cynllun Nyth â chi mewn perthynas â’r wefan hon, ar y cyd â’n polisi preifatrwydd.
Mae’r term cynllun Nyth Llywodraeth Cymru neu “ni” yn cyfeirio at berchennog y wefan, sef yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar ran Llywodraeth Cymru, y mae ei swyddfa yn Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, 33 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HB. Mae’r term “chi” yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu ddarllenwr ein gwefan.
Mae’r defnydd o’r wefan hon yn ddarostyngedig i’r telerau defnyddio canlynol:
- Mae cynnwys y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol i chi a’ch defnydd ohoni yn unig. Gall newid heb rybudd.
- Nid ydym ni nag unrhyw drydydd parti yn gwarantu cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnder nac addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a welir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys anghywirdebau neu wallau ac nid ydym yn atebol am unrhyw anghywirdebau neu wallau o’r fath i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.
- Rydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich menter eich hun, ac ni fyddwn yn atebol amdanynt. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu wybodaeth sydd ar gael ar y wefan hon yn bodloni eich gofynion penodol.
- Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo neu sy’n drwyddedig i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys dyluniad, cynllun, golwg, ymddangosiad a graffeg, ond nid yw’n gyfyngedig i hynny. Gwaherddir rhag atgynhyrchu gwybodaeth oni fyddai hynny yn unol â’r hysbysiad hawlfraint sy’n rhan o’r telerau ac amodau hyn.
- Caiff pob un o’r nodau masnach yn y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i’r gweithredwr neu’n drwyddedig iddo, eu cydnabod ar y wefan.
- Gall defnyddio’r wefan hon heb awdurdod arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd.
- Gallai’r wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Er cyfleustra i chi gael gwybodaeth ychwanegol y darperir y dolenni hyn. Nid ydynt yn golygu ein bod yn ardystio’r wefan/gwefannau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a restrir fel dolenni.
- Ni chewch greu dolen i’r wefan hon o wefan arall na dogfen heb ganiatâd ysgrifenedig gennym ymlaen llaw.
- Mae eich defnydd chi o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n codi o’r fath defnydd o’r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.